Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Ionawr 2024
Amser:
09.30 -
15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13831
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Huw Irranca-Davies AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Rhiannon Hardiman, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Darren Hughes, Conffederasiwn GIG Cymru Sally May, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Lance Carver, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Carys Lord, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Mary Ann Brocklesby, Cyngor Sir Fynwy Anthony Hunt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Llinos Medi, Cyngor Sir Ynys Môn Mark Pritchard, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Roedd Huw Irranca-Davies MS yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore MS.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Jacob Ellis, Cyfarwyddwr: Cysylltiadau Allanol a Diwylliant; a Rhiannon Hardiman, Arweinydd Polisi: Natur a Newid Hinsawdd, Economi, Polisi Bwyd.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Sally May, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd Grŵp Cymheiriaid Cyfarwyddwyr Cyllid; Darren Hughes, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru; Lance Carver, Is-lywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg; a Carys Lord, Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn; y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy; a'r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllideb a Busnes y Llywodraeth.
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn drwy'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chyllidebau cyfun rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar yr amrywiadau y gofynnwyd amdanynt i Amcangyfrif 2023-24 Archwilio Cymru; ac Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24.
10.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2024-25.